P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 7,927 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

​Mae Hanes Cymru'n bwysig i bob un disgybl, gan ei fod o'n rhoi cefndir am hanes ein Cenedl a'n treftadaeth i bawb sy'n mynd drwy'r system addysg. Mae yna agweddau o Hanes Cymru, megis Cyfreithiau Hywel Dda, Gwrthryfel Glyndŵr a Boddi Capel Celyn yn perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Mae'n bryderus felly fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymwrthod ag argymhelliad y pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i greu corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n astudio hanes - Mae'n bwysig creu cwricwlwm Hanes Cymru lle mae disgyblion yn dysgu am ddigwyddiadau a materion sy'n genedlaethol, yn ogystal â dysgu am Hanes eu cymunedau a'u hardaloedd nhw.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyfor Meirionnydd

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru